Derbynfa Deintydd

Gofod croesawgar

Roedden ni’n gwerthfawrogi o’r dechrau bod creu argraff gadarnhaol wrth ymweld a’r deintydd yn gofyn am greu gofod tawel, croesawgar sy'n gwneud i’r rhai sy’n ymweld i deimlo’n dawel eu meddwl ac yn gyfforddus o’r eiliad y maen nhw’n cyrraedd. Mae'r dyluniad yn cyflwyno lliwiau meddal a naturiol gyda goleuo cynnes i wrthweithio’r teimlad clinigol sy'n aml yn gysylltiedig ag ymweld â’r deintydd. Crëwyd ardaloedd eistedd cyfforddus wedi'u trefnu i greu preifatrwydd, tra bod mannau storio clyfar yn cadw'r gofod yn daclus. Dewiswyd deunyddiau gwydn ond chwaethus i wrthsefyll y traul ar y deunyddiau o ddydd i ddydd heb gyfaddawdu ar steil. O ganlyniad i’n gwaith fe grëwyd derbynfa groesawgar ac ymlaciol oedd yn meithrin tawelwch meddwl a meithrin hyder ymysg y rhai oedd yn ymweld â’r ddeintyddfa.