Yn yr adnewyddiad yma, fe aethom ati i gyfuno ymarferoldeb â chynhesrwydd i drawsnewid cartref gofal preswyl yn lle sy'n teimlo fel adref. Canolbwyntiodd y dyluniad ar greu llecynnau cysurus, diogel a hygyrch gyda llwybrau cerdded oedd yn cynnig mwy o le ynghyd â dodrefn a system oleuo oedd yn addas i ofynion y preswylwyr Bwriad y lliwiau niwtral a thawel ar gyfer y cynllun oedd creu awyrgylch o dawelwch a chynhesrwydd tra'n cynnal cymeriad a naws pob ystafell. Cafodd ardaloedd cymunedol eu ail gynllunio i annog gwell rhyngweithio cymdeithasol, tra bod mannau preifat wedi'u teilwra i greu ymdeimlad o breifatrwydd ac urddas. Gwnaed pob dewis ar y sail eu bod yn gwella bywydau pob dydd y preswylwyr yn ogystal â chreu amgylchedd gwaith pwrpasol ar gyfer y staff gofal ymroddedig.
Cartref Gofal Preswyl
Does unman yn debyg i gartref

