Swyddfa

Ysbrydoli creadigrwydd a chydweithio

Dyma un o’n cynlluniau a grëwyd ar gyfer trawsnewid swyddfa oedd wedi gweld ei dyddiau gorau i greu swyddfa newydd bwrpasol sy’n adlewyrchu gofynion gweithwyr heddiw. Trwy ail-drefnu’r cynllun, cyflwyno dodrefn ergonomig, a gosod cynllun goleuo soffistigedig, mae'r gweithle bellach yn teimlo'n agored, yn olau ac yn ymateb yn llawn i ddisgwyliadau gweithwyr heddiw Rhoddwyd sylw gofalus i seicoleg lliw, gan ymgorffori palet sy'n cydbwyso tonau tawel ag acenion deinamig i hyrwyddo ffocws. Ystyriwyd pob manylyn yn ofalus. Y nod oedd gwneud y dewisiadau gorau boed hynny ar gyfer y llawr neu o ran y dewis o blanhigion. Ein nod oedd sicrhau ein bod yn creu amgylchedd waith fydd yn ennyn brwdfrydedd a chreu aelwyd addas ar gyfer y tîm a chleientiaid fydd yn ymweld â’r swyddfa.